Linfield F.C.

Linfield
Enw llawnLinfield Football Club[1]
LlysenwauThe Blues
SefydlwydMawrth 1886 (1886-03)
(as Linfield Athletic Club)[1]
MaesParc Windsor, Belffast
(sy'n dal: 18,434)
CadeiryddRoy McGivern
RheolwrDavid Healy
CynghrairNIFL Premiership
2023–24NIFL Premiership, 2.
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis
The Beautiful Blues, carfan Linfield 1957-58

Mae Linfield Football Club (fel rheol, Linfield FC) yn glwb pêl-droed proffesiynol o Ogledd Iwerddon sydd wedi'i leoli yn ne Belffast sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon, yr NIFL - lefel uchaf Cynghrair Pêl-droed Gogledd Iwerddon. Dyma'r pedwerydd clwb hynaf ar ynys Iwerddon; sefydlwyd Linfield fel Linfield Athletic Club ym mis Mawrth 1886 gan weithwyr yn Linfield Mill yr Ulster Spinning Company.[2] Ers 1905, Parc Windsor yw maes cartref y clwb,[1] sydd hefyd yn gartref i dîm Gogledd Iwerddon a stadiwm pêl-droed fwyaf Gogledd Iwerddon. Mae bathodyn y clwb yn arddangos Castell Windsor, sef cartref teulu brenhinol Prydain, gan gyfeirio at enw'r tir.[3] Mae'r teyrngarwch yma i'r frenhiniaeth yn dangos ethos Unoliaethol, Brydeinig y clwb.

  1. 1.0 1.1 1.2 "Club History". linfieldfc.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-25. Cyrchwyd 18 December 2013.
  2. Garnham, Neal (2004). Association football and society in pre-partition Ireland. Ulster Historical Foundation. t. 47.
  3. Bairner, Alan (2004). Sport and the Irish. Dublin: University College Press. t. 199. ISBN 9781910820933.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy